Walk-With-Me
Prosiect wedi ei arwain gan artist i ysbrydoli pobl i gerdded, cofnodi a rhannu eu syniadau, eu delweddau a'u profiadau ar-lein. Cyflwynir y safle hwn i gerdded a'r byd o amgylch y cerddwr. Prosiect wedi ei arwain gan artist i ysbrydoli pobl i gerdded, cofnodi a rhannu eu syniadau, eu delweddau a'u profiadau ar-lein.
Os ydych chi wedi darganfod un o'r ffyn hyn
- 1. Ewch â hi am dro
- 2. Gadewch gofnod o'ch taith ar y safle yma
- 3. Gadewch y ffon yn rhywle i gerddwr newydd allu ei ddarganfod
Rydych chi wedi darganfod ffon fawd wedi ei dorri o wrychoedd yng Ngorllewin Cymru, wedi ei wneud gan yr artist Peter Bodenham. Mae ffyn wedi cael eu rhifo a'u gosod yn bwrpasol ar hyd a lled y byd. Mae'r artist yn gobeithio y bydd unigolion yn cipio'r ffyn hyn a adawyd ar ôl, yn mynd â nhw adref gyda nhw, ac yn bod yn ddigon chwilfrydig a hael i gymryd rhan yn y prosiect yma. Gobeithio y bydd y ffyn a'r wefan yn eich ysbrydoli chi, sef ceidwad y ffon, i fynd ar daith; naill ai tro byr gyfarwydd, siwrne hir, neu hyd yn oed grwydradau sy'n cwblhau dyheadau oes! Wedi i chi ddychwelyd, gobeithio y byddwch chi'n postio rhywbeth ar y safle / blog yma fydd yn cynrychioli eich profiadau, syniadau neu arsylwadau. Fe allai hyn fod ar ffurf darn byr wedi'i ysgrifennu, llun neu ffotograff. Yna, gofynnir i'r ceidwad anfon y ffon fawd yn ôl allan i'r byd iddi gael ei chanfod a mynd ar hynt a theithiau pellach.
Mae gan bob ffon rif unigryw; fe fydd hyn yn galluogi'r artist ac ymwelwyr â'r safle i olrhain hanes bywyd pob ffon unigol. Mae hap wedi ei blethu i'r prosiect, gan adlewyrchu natur taith a phrosiect celf sy'n cael ei yrru gan broses. Yn ei hanfod, fe fydd y prosiect yn adeiladu ac yn llunio gwe o drywyddion, gan ffurfio map diwylliannol pell o brofiadau unigolion. Mae pob un sy'n cyfrannu i'r prosiect yn artist ac yn rhan o broses greadigol gydweithredol.
Os nad oes gennych chi fynediad at y dechnoleg ofynnol neu wybodaeth ohoni, gofynnwch am help yn eich llyfrgell gyhoeddus leol, caffi rhyngrwyd neu gan ffrind neu berthynas sydd â mynediad i'r rhyngrwyd.
